Yn y gyfres hon, rydym yn ymchwilio i rai straeon gwella anhygoel sy’n digwydd ar draws GIG Cymru, fel rhan o’r Gydweithredfa Gofal Diogel.
Bydd Gwelliant Cymru yn parhau i gefnogi timau ar draws GIG Cymru i wneud gwaith i leihau’r amser rhwng yr amheuaeth o ganser a’r diagnosis ar ôl i’r prosiect Llwybrau Lle’r Amheuir Canser ddod i ben.
Mae prosiect yn Abertawe yn troi at y dechnoleg ddiweddaraf i wella'r broses o ymateb i rywun sydd wedi cwympo yn y cartref.
Mae'r Gwobrau yn ôl ac yn cynnwys 12 categori newydd i arddangos gwaith gwella ar draws iechyd a gofal yng Nghymru.
O 1 Ebrill 2024, bydd Gwelliant Cymru yn ymuno’n ffurfiol â Gweithrediaeth GIG Cymru i ffurfio’r gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella.
Mae gwaith gwella sydd wedi’i wneud ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) wedi cynyddu cyflymder prosesu samplau brys lle mae amheuaeth o ganser yn ei labordy Patholeg Gellol.
Mae cymuned welliant GIG Cymru yn ffarwelio â dau gydweithiwr sydd wedi rhoi gwasanaeth hir i’r GIG.
Heddiw, ar Ddiwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, mae Gwelliant Cymru yn lansio strategaeth ‘Cyflawni Gwella Ansawdd a Diogelwch’
Dros gyfnod o ddeuddydd yn gynt yr wythnos hon, croesawom dros 650 o gyfranogwyr o bob cwr o Gymru i ailfeddwl sut rydym ni’n gwella – gyda’n gilydd.
Rydym yn falch iawn o allu rhannu Adroddiad Blynyddol cyntaf Gwelliant Cymru gyda chi.
Mae Gwelliant Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd eu Cynhadledd Genedlaethol yn cael ei chynnal ar-lein ar 10 ac 11 Mai 2022.