Neidio i'r prif gynnwy

Plant ac oedolion ifanc i elwa ar grantiau anabledd dysgu


Mae cyllid grant newydd gan Lywodraeth Cymru ar fin gwella bywydau plant ac oedolion ifanc ag anabledd dysgu ledled Cymru.

Mae tîm Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru wedi dyfarnu grantiau gwella i alluogi prosiectau a fydd yn cefnogi bywydau pobl ag anabledd dysgu trwy welliant. Dyfarnwyd y rownd gyntaf o grantiau yr haf diwethaf i gefnogi timau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i archwilio ffyrdd newydd o weithio neu ddatblygu syniadau arloesol yn realiti.

Mae’r prosiectau’n cynnwys:

 

Aros, Chwarae a Dysgu

Mae’r Pediatregydd Ymgynghorol, Dr Martin Simmonds ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio ar y cyd â’r sefydliad trydydd sector SNAP, sy’n cefnogi rhieni a phlant sy’n wynebu argyfwng. Mae hefyd yn cefnogi mynediad at gymuned arbenigol o wasanaethau anabledd dysgu sydd wedi’u cydleoli yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Mae'r prosiect wedi'i leoli yn yr adran iechyd plant ac mae'n gweithio gyda phlant cyn-ysgol rhwng 0-5 oed ag anghenion dysgu ychwanegol a chymhleth.

Mae mewnbwn rhieni wedi bod yn rhan annatod o ddyluniad a datblygiad y prosiect gwella hwn sy'n ceisio pwysleisio'r elfen o 'ddysgu' i rieni a gofalwyr. Nod y prosiect hwn yw helpu i leihau ymddygiadau heriol, cynyddu strategaethau i rieni a gofalwyr eu defnyddio gartref ac adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth.

Dywedodd Arweinydd y Prosiect, Cindy Jenkins; “Mae grant Gwelliant Cymru wedi galluogi staff i weithio'n llawer agosach gyda rhieni, a darparu arweiniad a chefnogaeth sydd wedi eu grymuso i weithredu strategaethau i wella datblygiad anghenion eu plant.

“Rydym wedi gweld rhieni’n magu hyder, yn cyfarfod â theuluoedd eraill sy’n profi’r un anawsterau ac wedi llwyddo i ymestyn ein partneriaeth ag asiantaethau eraill yn ein cymuned, a phob un yn gweithio gyda’i gilydd i gael canlyniadau gwell.”

“Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y teuluoedd sydd eisiau ein cefnogaeth ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb y cyllid hwn.”

 

Yma a Nawr

Gan weithio ar y cyd â’r mudiad trydydd sector MIND, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi datblygu hwb mynediad agored i gefnogi teuluoedd i gael mynediad at wybodaeth yn ôl yr angen. Mae hyn mewn ymateb i deuluoedd sydd wedi adrodd y gall yr aros am wasanaethau arbenigol achosi trallod pellach ar adeg pan fo cadernid yn aml yn teimlo dan fygythiad o fewn y teulu.

Mae’r hwb yn cael ei chynnal yn y gymuned leol er mwyn darparu lle i deuluoedd gael cymorth cynnar a chymorth gan gymheiriaid ochr yn ochr â’r broses brysbennu. Nid yw mynediad i’r hwb yn seiliedig ar ddiagnosis, ond yn hytrach i gynnig cymorth i deuluoedd i wneud synnwyr o’r materion y maent yn eu hwynebu ‘yma a nawr’.

Mae’r hwb, sy’n cynnig lle ar gyfer gweithio integredig rhwng clinigwyr iechyd a gofal cymdeithasol, hefyd yn rhoi’r cyfle i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol rannu cyfrifoldeb a phŵer yn unol â gweledigaeth i hyrwyddo ac ymgorffori cyd-gynhyrchu.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Shelley Lewis o Mencap Môn: “Gall sefydliadau sy’n aros i weld teuluoedd gyfuno apwyntiadau a chysylltu â’i gilydd.

“I deuluoedd, dyma 'eu gofod nhw'. Mae'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol nad yw mewn lleoliad clinigol neu arbenigol. Nid oes proses o ‘weld derbynnydd.’

“Mae teuluoedd yn cyrraedd ac yn cael paned ac yn penderfynu gyda phwy y maen nhw am siarad; mae'n newid y deinamig o bŵer."

Dywedodd un o’r rhieni oedd yn mynychu’r hwb: “Rwy’n dod yma ac rwy’n teimlo’n normal.”

 

Ble rydw i eisiau byw

Mae’r prosiect yn cynnwys cyd-gynhyrchu a phrofi pecyn cymorth/platfform digidol sydd â’r nod o rymuso pobl ag Anabledd Dysgu rhwng 14 a 35 oed i ddarganfod eu hun a mynegi eu huchelgeisiau o ran ble a sut maent yn dymuno byw eu bywydau fel oedolion.

Gan weithio mewn partneriaeth, mae'r elusen 'Where I Want to Live' ac awdurdodau lleol Sir Benfro a Chonwy yn cyd-gynhyrchu platfform prototeip a thrwy broses o brofi byddant yn datblygu cynnyrch terfynol a ddyluniwyd gan y defnyddiwr terfynol.

Nod y platfform yw cysylltu pobl â'u rhwydweithiau gan ddarparu cyfeiriadau hawdd eu defnyddio ac awgrymiadau i'w helpu i wneud penderfyniadau. Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddatblygu gan dîm prosiect bach a fydd yn ymgynghori â grŵp cynghori, gyda chynrychiolaeth o bob grŵp sy’n ymwneud â chefnogi pobl ag anableddau dysgu yn Sir Benfro a Chonwy.

Dywedodd un defnyddiwr gwasanaeth: “Rwy’n credu y bydd llawer o bobl yn elwa’n sylweddol ar y gallu i chwilio am eu cartref dymunol a phethau eraill yr hoffent gael mynediad iddynt fel cludiant a siopa.”

Ychwanegodd Richard Lloyd, o’r Uwch Dîm Rheoli yn First Choice Housing Association sy’n rhan o’r grŵp cynghori: “Mae’r grŵp cynghori wedi datblygu ap deniadol a hawdd ei ddefnyddio’n llwyddiannus trwy fabwysiadu proses gwneud penderfyniadau ystyrlon trwy gydol y prosiect, gan arsylwi tryloywder, a mabwysiadu ffocws canlyniadau cadarnhaol.  

“Rwy’n teimlo bod set sgiliau dda wedi bodoli ymhlith y grŵp cynghori ar draws sector eang. Mae aelodau’r grŵp wedi cyfrannu’n effeithiol o’u hamser, eu gwybodaeth a’u profiad wrth gynorthwyo i ddatblygu’r ap.   

“Mae bod yn aelod o’r grŵp cynghori wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn ac edrychaf ymlaen at ddatblygiad pellach o ganlyniad i’r data a gasglwyd o’r ap.”    

 

Prosiect Cyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC) – Technoleg ddigidol ar gyfer cyfathrebu

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn defnyddio ei gyllid i hwyluso prosiect gwella sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo canlyniadau cyfathrebu ar gyfer pobl ifanc 8 – 11 oed mewn ysgolion addysg arbennig.

Bydd y tîm lleferydd ac iaith yn defnyddio rhaglen o'r enw 'TD Snap' i ddiwallu'r angen hwn. Nid yw dulliau traddodiadol ac is-dechnoleg wedi gallu cefnogi'r garfan hon yn y gorffennol gan fod yr eirfa wedi'i chyfyngu gan ei bod yn seiliedig ar bapur, ac nid yn eang ar gyfer anghenion y person ifanc. Y nod yw profi'r defnydd o uwch-dechnoleg AAC gyda'r garfan hon o bobl ifanc, i ddangos bod yna ateb i'w hanghenion cyfathrebu nad yw wedi'i ddefnyddio'n eang o'r blaen.

Dywedodd Lowri Walters, Therapydd Iaith a Lleferydd: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis i dderbyn grant Gwelliant Cymru i gefnogi ein prosiect.

“Bydd cael y cyfle i dreialu cymhorthion cyfathrebu uwch-dechnoleg yn gynnig cyffrous y gobeithiwn y bydd yn gwella ansawdd bywyd ein disgyblion.  Trwy wella a datblygu sgiliau cyfathrebu, ein nod yw rhoi cyfle i’n disgyblion leihau rhwystredigaeth, eirioli drostynt eu hunain, ac ehangu eu perthynas ag eraill.

“Mae ein pobl ifanc yn dod ar draws llawer o bartneriaid cyfathrebu trwy gydol eu hoes (e.e. cyfoedion, athrawon, staff gofal iechyd, teulu, darparwyr seibiant). Mae cael system swyddogaethol ar gyfer cyfathrebu, y gall pob un o’r partneriaid hyn ei defnyddio a’i deall, yn hanfodol i feithrin perthnasoedd a lleihau rhwystredigaeth ac ymddieithrio.”


Ychwanegodd Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwella yn y tîm Gwella Anabledd Dysgu: “Pan ddechreuon ni ar ein taith gyda’r grantiau gwella, doedden ni ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl.  Fodd bynnag, roeddem yn gwybod ei bod yn hollbwysig gwneud y broses ymgeisio yn agored i bob sector cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, addysg, a gofal cymdeithasol.

“Mae llwyddiant anhygoel y broses hon nid yn unig yn arddangos ymroddiad ein hymarferwyr anabledd dysgu ond yn amlygu pwysigrwydd gwaith tîm a chydweithio ar draws sectorau wrth archwilio syniadau newydd.

“Rydym yn falch iawn o gefnogi cyfanswm o chwe phrosiect ledled Cymru i rannu’r gwersi a ddysgwyd o lwyddiannau ac anawsterau gyda’n cymunedau a’n rhwydweithiau.  Mae hyn yn gyfle i ehangu arferion da ac ysbrydoli timau eraill i ystyried newidiadau y gellir eu gwneud i wella profiadau'r rhai sy'n defnyddio eu gwasanaethau.

“Er gwaethaf y dirwedd heriol a chyfnewidiol y mae gwasanaethau’n ei llywio, mae’r prosiectau gwella hyn yn ddathliad gwirioneddol o feddwl creadigol ac arloesol.  Maent yn dangos pa mor ymroddedig yw gwasanaethau i wella ansawdd y gofal i bawb ag anabledd dysgu yng Nghymru a’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio â’n partneriaid.”

Bydd prosiectau a hwylusir gan y grantiau gwella yn cefnogi gwaith y tîm Anabledd Dysgu i wella bywydau pobl ag anabledd dysgu drwy leihau anghydraddoldeb, fel rhan o Gynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.

Dyfarnwyd grantiau i ddau brosiect pellach; cwrs ar-lein i staff gofal iechyd i gefnogi pobl ag anabledd dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a menter lleihau rhwystrau llawr o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd diweddariadau ynghylch y prosiectau hyn yn cael eu cyfleu wrth iddynt ddatblygu.