Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliant i barhau wrth i brosiect Llwybrau Lle'r Amheuir Canser ddod i ben

Bydd Gwelliant Cymru yn parhau i gefnogi timau ar draws GIG Cymru i wneud gwaith i leihau’r amser rhwng yr amheuaeth o ganser a’r diagnosis ar ôl i’r prosiect Llwybrau Lle’r Amheuir Canser ddod i ben.

Mae’r prosiect, a ariennir gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser ac a gaiff ei weithredu mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru a’r gwneuthurwr cerbydau Toyota, wedi annog timau amlddisgyblaethol canser (MDTs) a labordai patholeg gellog i wella eu llwybrau trwy gymhwyso Methodoleg Ddarbodus.

Fel rhan o’r prosiect, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, ymgymerodd y timau â hyfforddiant dwys yng Nghanolfan Rheolaeth Ddarbodus Toyota yng Nglannau Dyfrdwy a chafwyd ymweliadau safle gan y gweithgynhyrchwr i nodi sut y gellid defnyddio egwyddorion System Gynhyrchu Toyota i wella eu llwybrau.

Mae Gwelliant Cymru wedi cefnogi’r timau i ddatblygu a gweithredu’r syniadau newid a nodwyd ganddynt fel rhan o’r hyfforddiant, ac mae’r arwyddion cynnar yn addawol.

Mae arwyddion cynnar o labordy patholeg gellog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dangos y gallai'r mewnbwn samplau gynyddu'n sylweddol ar ôl cymhwyso methodoleg 5S ar gyfer safoni.

Mewn man arall, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn canolbwyntio ar leihau’r oedi yn ei adain microtomi drwy dargedu cyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd a lleihau’r ymyriadau sy’n gofyn llawer o amser gan y tîm.

Dywedodd Iain Roberts, Pennaeth Rhaglenni Gwelliant Cymru: “Mae’r prosiect Llwybrau Lle’r Amheuir Canser wedi rhoi’r cyfle i’r timau sy’n cymryd rhan archwilio newidiadau a gwelliannau posibl mewn amgylcheddau prysur iawn.

“Ar adeg pan fo gwasanaethau dan bwysau sylweddol, mae’n wych bod y timau hynod ymroddedig a gweithgar hyn yn agored i geisio profi ffyrdd o ddarparu gwasanaethau sydd eisoes o safon uchel mewn ffyrdd ychydig yn wahanol.

“Ein ffocws yw parhau i gefnogi’r timau hyn a meithrin eu cynnydd rhagorol tuag at gyflawni gwelliannau cynaliadwy i’w llwybrau canser, yn ogystal ag amlygu’r dysgu er budd gwasanaethau a chleifion ledled Cymru.”

Dysgwch fwy am y Llwybrau Lle’r Amheuir Canser.