Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni'n ôl ar gyfer ail gyfres ein podlediad: Trafod Gwelliant

Gwnewch baned ac ymunwch â Dominique Bird sy’n sgwrsio ag amrywiaeth o westeion mewn pedair pennod newydd sbon.

Yn y gyfres hon, rydym yn ymchwilio i rai straeon gwella anhygoel sy’n digwydd ar draws GIG Cymru, fel rhan o’r Gydweithredfa Gofal Diogel:

Call 4 Concern

Os yw cleifion neu aelodau o'u teulu yn poeni am eu cyflwr sy'n dirywio, at bwy y dylen nhw droi? Clywn gan Eirian Edwards o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n rhannu gwasanaeth llwyddiannus i gleifion a’u teuluoedd sy’n gwneud yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud – Call 4 Concern.  

Yr Hyb Llywio Clinigol

Sut y gellir lleihau’r pwysau cynyddol ar adrannau brys a gwasanaethau ambiwlans? Clywch gan Dr Dewi Rogers o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy’n rhannu prosiect ysbrydoledig sy’n helpu i leddfu’r straen ar wasanaethau gofal iechyd critigol.

Prosiect cymunedol cydweithredol lleol i leihau galwadau 999 am gwympo mewn gofal

Mae effaith cwympo, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn, yn sylweddol. Yn y bennod hon, mae Eleri D'Arcy o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Demi Catterall o Simply Safe Care Group, ac Amy Jenkins o Gyngor Abertawe yn dweud wrthym sut mae eu sefydliadau'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ymateb i gwympiadau sy'n digwydd gartref.

Creu’r amodau ar gyfer gwelliant cynaliadwy

Pa mor hanfodol yw diogelwch seicolegol yn y gweithle? Pa effaith y mae'n ei chael ar lesiant a chynhyrchiant yn gyffredinol? Mae Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio yn rhannu ei mewnwelediad a'i phrofiadau ynghylch mentrau diogelwch seicolegol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.  


Gwrandewch nawr:

 

Fel arall, gallwch wrando a thanysgrifio ar Apple PodcastsSpotify neu ble bynnag y cewch eich podlediadau.

Gallwch hefyd wylio uchafbwyntiau fideo o bob pennod ar ein sianel YouTube.