Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Cwympo mewn Gofal yn lleddfu'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen

Mae prosiect yn Abertawe yn troi at y dechnoleg ddiweddaraf i wella'r broses o ymateb i rywun sydd wedi cwympo yn y cartref.

Amcangyfrifwyd bod rhwng 500,000 a 1,000,000 o gwympiadau yn digwydd bob blwyddyn yng Nghymru yn y grŵp oedran 65 a hŷn. Mae hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar Wasanaethau Ambiwlans Cymru, wardiau ysbyty prysur a’r rhai sy’n rheoli cwympiadau yn y cartref ac yn y gymuned. Nod y prosiect yw sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal sydd ei angen arnyn nhw, yn y lle iawn ac ar yr amser iawn.

Yn y cyd-destun hwn, daeth grŵp cydweithredol yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA), Cyngor Abertawe, Simply Safe Care Group Ltd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) at ei gilydd i fynd i’r afael â’r broblem.

Wrth galon y prosiect, mae ap iStumble a ddatblygwyd gan WAST a Winncare. Mae’r ap, sydd ar gael am ddim ac i bawb, yn helpu gofalwyr i asesu anghenion preswylwyr sydd wedi cwympo yn y cartref, a phenderfynu a oes angen gwneud galwad i’r gwasanaethau brys neu a oes modd eu trin yn y cartref.

Amy Jenkins, Swyddog Comisiynu gyda Chyngor Abertawe sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o gomisiynu gofal yn y cartref yn Abertawe. Mae’n gwneud hynny trwy ddarparwyr lleol, sy’n caniatáu i bobl fyw mor hir ac annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.

Dywedodd Amy: “Cyn i ni gymryd rhan yn y prosiect hwn, yr unig opsiwn oedd ar gael i weithwyr gofal yn y cartref sy'n delio â chwymp oedd galw ambiwlans. Roeddem am adeiladu ymagwedd newydd at ofal yn y cartref a sut yr oeddem yn ymateb i gwympiadau yn y gymuned. Roeddem yn awyddus i rymuso gofalwyr i wneud mwy na dim ond galw ambiwlans pan oedd person yn eu gofal wedi cwympo.

“Roedd y Simply Safe Care Group, sy’n darparu gofal a chymorth i bobl yn y gymuned leol, eisoes yn defnyddio ap iStumble ac yn awyddus i weithio gyda ni. Roedd aliniad naturiol yn ein gwaith.  Trwy reoli cwympiadau yn well, roeddem yn gallu rhyddhau gweithwyr gofal i barhau â'u gwaith yn y gymuned. Roeddem hefyd yn ffodus i sicrhau cyllid rhanbarthol i brynu darn o offer o’r enw Camel. Mae’r offer yn chwyddo i godi pobl o’r llawr pan fyddan nhw wedi cwympo.

“Fe wnaethom weithio gyda WAST a thîm atal cwympiadau Simply Safe i’w galluogi i gael hyfforddiant ac adeiladu’r adnoddau angenrheidiol o fewn Simply Safe. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn atal pobl rhag gorfod cael eu hailasesu ar gyfer pecyn gofal. Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl trwy ddefnyddio’r Tai rhanbarthol gyda chyllid Amcan 3 Gofal gan Lywodraeth Cymru.”

Wrth gloi, dywedodd Amy: “Cafodd llawer o’n gwaith ei ddatblygu drwy fforymau darparwyr a rhanbarthol lle wnaethom gyfarfod ag Eleri D’Arcy, Arweinydd Blaenoriaeth Ansawdd Clinigol yn BIPBA sy’n arwain ar wella ansawdd atal cwympiadau.”

Dywedodd Eleri: “Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae cyfraddau cwympiadau yn y gymuned yn codi. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n cefnogi pobl yn y lle iawn, gan gadw pobl yn annibynnol ac yn y cartref cyhyd â phosib ac i ffwrdd o ofal eilaidd pan nad oes angen iddyn nhw fod yno. 

“Yn ardal Abertawe (BIPBA) yn unig, mae gennym ni rhwng 700 ac 800 o gleifion y mis yn dod at wasanaethau drws ffrynt o ganlyniad i gwymp. Nid oes angen i lawer o'r cleifion hyn gael eu trin mewn ysbyty na'u cludo yno mewn ambiwlans.

“Mae’r prosiect atal cwympiadau, sy’n rhan o’n hymrwymiad gyda Gwelliant Cymru ar y Rhaglen Gydweithredol Gofal Diogel, yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus. Y nod yw lleihau nifer y cleifion sy'n dod i'r ysbyty pan nad oes angen iddyn nhw wneud hynny o ganlyniad i gwymp. Nid oeddem yn bwriadu newid ein hymateb i gwymp niweidiol ond ar gyfer y cleifion hynny sydd efallai wedi cwympo ond heb gael eu hanafu. Maent mewn perygl o gael yr hyn a elwir yn 'orwedd yn hir' - aros ar y llawr am dros awr ac yn methu â chodi. Gall hyn fod yn niweidiol i rywun dros 65 oed. Roeddem yn chwilio am ddewis arall i atal y person hwnnw rhag dod i’r ysbyty lle gallent golli eu hannibyniaeth a’u hyder i ddychwelyd adref.”

Ychwanegodd: “Roeddem yn ffodus i gael partneriaid parod yng Nghyngor Abertawe, Simply Safe a WAST i ddod â’r holl gydrannau angenrheidiol ynghyd i dreialu’r darn hwn o waith. Yn amlwg, mae’r prosiect hwn yn ei ddyddiau cynnar o hyd ond rydym eisoes yn gweld gwelliannau a gostyngiad yn nifer y cleifion sy’n dod i’r ysbyty sy’n derbyn gofal cartref ac sydd wedi cwympo yn y cartref.”

Mae Demi Catterall yn gweithio i’r Simply Safe Care Group yn Abertawe a, gellid dadlau, hi yw’r llinyn sy’n rhedeg drwy’r cydweithrediad llwyddiannus hwn ac sy’n ei rwymo.

Dywedodd Demi: Mae wedi bod yn wych gweithio gydag Eleri ac Amy ar y prosiect hwn. Mae wir yn enghraifft o gydweithio ar ei orau. Rydyn ni i gyd yn rhannu'r un amcan ac mae'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd yn cael ei rannu ar draws y system - gan y person sy'n derbyn gofal, y criwiau ambiwlans a staff prysur yr ysbyty.

“Hefyd, mae mwy o ymwybyddiaeth a hyder ymhlith staff sy'n ymateb i gwymp. Mae gennym rywun yn ein gofal sydd â hanes hir o gwympo, sydd weithiau'n arwain at orwedd yn hir. Trwy hyfforddiant staff ac ap iStumble, rydym wedi llwyddo i atal yr adegau hynny o orwedd yn hir a lleihau nifer yr ymweliadau ag ysbytai.”


I glywed mwy am y stori hon gan Amy, Eleri a Demi, gwrandewch ar eu podlediad.