Neidio i'r prif gynnwy

Lleihau'r pwysau ar Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST), adrannau argyfwng a chapasiti mewn ysbytai acíwt: sut mae'r Hyb Llywio Clinigol wedi darparu gofal mwy diogel mewn ymateb i alwadau gan gartrefi nyrsio


Nid yw derbyniadau acíwt i'r ysbyty bob amser yn amgylchedd priodol ar gyfer preswylwyr cartrefi nyrsio a allai dderbyn gofal yng nghysur eu cartref, sy’n aml yn opsiwn a ffefrir ar gyfer preswylwyr a'u teuluoedd. Gyda’r cyfyngiadau presennol ar ddarpariaeth gwasanaethau, capasiti a gwelyau ysbyty cyfyngedig mae’r oedi hir mewn adrannau argyfwng yn amharu ar gysur ac urddas, ac hefyd yn achosi oedi o ran triniaeth.  Yn ogystal, mae'n arwain at orlethu'r adrannau argyfwng sydd eisoes yn brysur ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Creodd tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yr Hyb Llywio Clinigol i helpu i leihau’r broblem hon.  Gall gweithwyr gofal iechyd ffonio’r Hyb am gyngor ar sut i reoli achosion, yn hytrach na ffonio 999, a chanfod a allant osgoi ymweld â'r adran argyfwng a darparu gofal mwy addas, sy'n briodol ar gyfer pob sefyllfa.

Gosodwyd y sylfeini ar gyfer yr Hyb Llywio Clinigol yn 2020 pan roddwyd rhai mentrau ar waith yn ystod pandemig Covid.  Ailedrychwyd ar y gwaith hwn, adeiladwyd arno, ac yna fe’i cyflymwyd yn 2023, pan ddatblygwyd cyfres o wasanaethau a llwybrau clinigol, sydd bellach yn ffurfio’r Hyb Llywio Clinigol.  Daeth y prosiect hefyd yn rhan o’r Gydweithredfa Gofal Diogel, sy’n golygu bod gan aelodau’r tîm fynediad at gymorth gan Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI), yn ogystal â chymorth gan y tîm lleol ar gyfer gwella ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Maent yn mynychu sesiynau dysgu rheolaidd i rannu eu profiadau a dysgu gan gydweithwyr sy’n gweithio ar brosiectau gwella ledled GIG Cymru. 

Gosodwyd targed ganddynt i gynyddu’r ddarpariaeth o ofal amgen a lleihau cludo amhriodol i ysbytai acíwt o 0 i 500 erbyn Rhagfyr 2023.

Roedd y prosiect yn cynnwys sicrhau bod ganddynt systemau cyfathrebu priodol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth Hyb Llywio Clinigol a bod y derbynwyr galwadau wedi'u hyfforddi'n briodol i frysbennu a chyfeirio'r galwadau.  Roedd yn rhaid iddynt hefyd sicrhau bod dewisiadau amgen ag adnoddau digonol ar gyfer derbyniadau acíwt, er enghraifft, y gallu i ddarparu presgripsiynau o bell, cyfeirlyfr ar gyfer darparwyr amgen, clinigwyr i ymweld â nhw a darpariaeth fferylliaeth.  Maent wedi bod yn defnyddio Consultant Connect sy’n galluogi clinigwyr yr Hyb Llywio i drafod cleifion gyda’r ymgynghorwyr gofal eilaidd – gan sicrhau bod cynlluniau rheoli priodol yn cael eu gweithredu yn y cartref.

Roedd angen iddynt wneud staff rheng flaen WAST yn ymwybodol o'r gwasanaeth fel y gallant alw’r Hyb Llywio Clinigol i ganfod a ydynt yn addas ar gyfer rheolaeth amgen.  Fe wnaethon nhw greu ramp PDSA ar gyfer eu strategaeth gyfathrebu a oedd yn eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwell o gyfathrebu â nhw, er enghraifft trwy adael taflenni a nodai rif cyswllt y seddi yn yr ambiwlans er mwyn gallu cyfeirio atynt yn hawdd, a neges ar sgrin y parafeddyg ar ddechrau'r sifft.

Roedd Heddlu De Cymru yn eu galw hefyd yn hytrach na galw ambiwlans pan oedd angen cymorth arnynt i wirio marwolaeth.  Pe cafwyd marwolaeth sydyn yr oedd yr heddlu yn ei hystyried yn un nad oedd yn amheus, byddent yn galw'r Hyb Llywio Clinigol; cyn hyn byddai ymateb ambiwlans wedi bod yn angenrheidiol.

Roedd un o’r straeon am lwyddiannau’n cynnwys claf oedrannus â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a ffoniodd 999 gan fod ganddo ddiffyg anadl a oedd yn gwaethygu; ymwelwyd ag ef gartref a chafodd ei drin yn ddiogel â gwrthfiotigau geneuol ar gyfer haint ar y frest.  Ffoniodd rhywun arall 999 ar ôl cwympo wrth drosglwyddo i gadair.  Cafodd ei adolygu'n ddiogel gartref a’i atgyfeirio i ofal priodol nad oedd yn ofynnol galw ambiwlans ar ei gyfer.

Yn ystod 2023, deliodd yr Hyb Llywio Clinigol â thros 5000 o achosion.  O'r rhain, daeth mwy na hanner yr achosion yn uniongyrchol o gartrefi gofal neu WAST. Cofnodwyd 1133 o ymyriadau llwyddiannus gan gartrefi gofal – roedd y rhain yn achosion pan oedd cartrefi gofal yn galw’r Hyb Llywio yn uniongyrchol yn hytrach na galw ambiwlans – gan arwain at gyfradd osgoi cludo o 88%.  Yn ogystal, cofnodwyd 1414 o atgyfeiriadau gan WAST, a chyfradd osgoi cludo o 78.9%. 

Dywed staff ei fod wedi golygu llawer iddynt eu bod yn helpu i sicrhau bod cleifion yn cael gofal yn eu man o ddewis, a bod hyn yn eu helpu i ddiwallu anghenion y cleifion.  Mae'r tîm yn arbennig o falch o'r hyn y mae wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr, ac mae wedi cyflawni llawer mwy na'i darged gwreiddiol. 

Dywedodd Andrea Dorrington, Nyrs Arweiniol ar gyfer Gofal Sylfaenol Brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, “Mae gan yr Hyb Llywio dîm o glinigwyr sy’n asesu a thrin cleifion yn y gymuned neu yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r dull cartref yn gyntaf hwn yn hyrwyddo gofal wedi’i bersonoli, yn gwella cysur cleifion ac yn lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty. Mae hyn, yn ei dro, yn helpu i feithrin amgylchedd mwy cefnogol i gleifion wella ynddo. 

“Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru, mae’r Hyb Llywio, drwy ei waith partneriaeth, wedi gallu helpu i ryddhau capasiti gwerthfawr ambiwlansys 999 fel bod mwy o gleifion yn gallu cael ymateb prydlon. Mae’r dull cymunedol hwn o ddarparu gofal iechyd prydlon ac ymatebol hefyd yn helpu i leihau costau a gwella canlyniadau cleifion a’u boddhad.”

Dywedodd Dominique Bird, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwelliant Cymru, “Mae’r Hyb Llywio Clinigol wedi creu effaith drawsnewidiol ar ganlyniadau cleifion.  Mae’r straeon o lwyddiannau a chyfraddau osgoi cludo yn dangos grym eu datrysiadau arloesol.  Rydym yn awyddus i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o waith gwych y tîm hwn i helpu mentrau tebyg ledled Cymru.”

Wrth symud ymlaen, y cynllun yw lledaenu’r gwaith ar draws y bwrdd iechyd ac mae Gwelliant Cymru yn awyddus i gefnogi’r tîm i weithio gyda thimau tebyg mewn byrddau iechyd eraill ledled Cymru. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy, cysylltwch â Luke Morton, arweinydd gwelliant yn Gwelliant Cymru, ac arweinydd ffrwd waith gofal dydd ar gyfer y Gydweithredfa Gofal Diogel, drwy e-bostio Luke.Morton2@wales.nhs.uk.


Gallwch glywed mwy am yr Hyb Llywio Clinigol ar ein podlediad: