12 Mai 2025
Cyhoeddwyd canllawiau newydd ar gyfer darparu ymyriadau seicolegol i blant, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu yng Nghymru i helpu i wella eu hiechyd a'u llesiant.
Mae'r canllawiau'n mynd i'r afael â'r gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd y mae trallod seicolegol yn ymgyflwyno mewn pobl ag anabledd dysgu, a'r ffordd y mae angen cyflwyno ymyriadau seicolegol.
Mae gweithwyr gofal proffesiynol o sawl bwrdd iechyd lleol yng Nghymru wedi ysgrifennu a chyfrannu at y canllawiau, sydd wedi'u cyhoeddi gan Weithrediaeth GIG Cymru. Mae hyn yn nodi ymrwymiad ar y cyd i ddiwallu anghenion rhai o'r bobl fwyaf ymylol yn ein cymunedau.
Chwaraeodd yr elusen flaenllaw Mencap Cymru ran allweddol wrth sicrhau bod y canllawiau wedi'u datblygu ar y cyd â phobl ag anabledd dysgu, eu rhieni a'u gofalwyr. Cytunwyd ar bum egwyddor allweddol drwy gyfres o grwpiau ffocws a chyfweliadau ansoddol – galluogedd, cynhwysol, perthynol, cydweithredol, a thosturi – ac roedd eu lleisiau’n ganolog i ddatblygiad y canllawiau.
Dywedodd Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella Gweithrediaeth GIG Cymru: “Mae’r anghydraddoldebau iechyd y mae pobl ag anabledd dysgu yn eu profi yn eang. Gwyddom eu bod yn marw tua 20 mlynedd yn gynharach na'u cyfoedion yn y boblogaeth gyffredinol, bod ganddynt fwy o forbidrwydd, ac maent yn wynebu mwy o ffactorau negyddol fel tlodi a mynediad at wasanaethau.
“Mae angen dull gydol oes ar ddarparu'r ymyriadau seicolegol cywir sy'n cwmpasu pob pwynt trosglwyddo ac sy’n cydnabod stori gyfan pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd, a’u strwythurau cymorth. Mae'r canllawiau hyn yn mynd yn bell i gyflawni dull Cymru gyfan i ddiwallu anghenion y boblogaeth hon.
“Rydym yn falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth i greu adnodd sydd wedi'i lywio gan dystiolaeth yn ogystal â phrofiad bywyd, oherwydd mae newid go iawn yn dechrau pan fydd y bobl sy’n cael eu heffeithio fwyaf yn cael eu clywed.”
Mae'r canllawiau wedi'u cynllunio ar gyfer ymarferwyr, rheolwyr a chynllunwyr sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a sefydliadau'r trydydd sector. Rhagwelir y bydd gan y rhai sy'n defnyddio'r canllawiau hyn wybodaeth dda am therapïau ac ymyriadau seicolegol ond efallai y byddant am dderbyn rhagor o arweiniad ynghylch yr addasiadau a'r ffactorau cyd-destunol sy'n effeithio ar bobl ag anabledd dysgu.
Mae'r canllawiau hefyd yn tynnu sylw at yr ymyriadau seicolegol nad ydynt yn cael eu defnyddio yn y tablau tystiolaeth cyfredol sy'n cael eu defnyddio gan ymarferwyr a therapïau ym Matrics Cymru: Canllawiau ar gyfer Darparu Therapi Seicolegol sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth yng Nghymru (2017). Y bwriad yw y bydd tablau tystiolaeth yn y dyfodol ym Matrics Cymru yn gynhwysol o bobl ag anabledd dysgu.
Lansiwyd y canllawiau mewn cynhadledd Cymdeithas Seicolegol Prydain yng Nghaerdydd. Cyflwynodd pump o'r awduron y ddogfen i gynrychiolwyr yng Nghynhadledd Hyrwyddo Ymarfer y Gyfadran ar gyfer Pobl ag Anableddau Deallusol 2025:
Mae'r digwyddiad deuddydd yn dwyn ynghyd arbenigwyr, ymchwilwyr, addysgwyr ac eiriolwyr blaenllaw ar draws y maes seicoleg. Mae gan gynrychiolwyr gyfleoedd i rannu arferion gorau, datblygu cysylltiadau yn y gymuned anabledd dysgu, a rhannu eu gwaith diweddaraf.
Hefyd yn y gynhadledd, rhoddwyd cyflwyniad am faes gwaith cyffrous arall ym maes gofal i bobl ag anabledd dysgu. Rhannodd Dr Rachel Ann Jones, Arweinydd Cenedlaethol Rhaglen Anabledd Dysgu Gweithrediaeth GIG Cymru, ac Andy Ware, Uwch Reolwr Gwella, eu cynnydd gan ddefnyddio Meddwl trwy Systemau mewn Ymarfer (STiP), disgyblaeth reoli sy'n dod i'r amlwg i herio sefyllfaoedd cymhleth, er mwyn llywio'r dirwedd anabledd dysgu aml-leoliad yng Nghymru.
Mae eu llwyddiant wedi eu helpu i arwain gwaith i wella diogelwch cleifion a chreu gwelliannau cynaliadwy yn iechyd a llesiant pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Ewch i www.improvementcymru.net/learning-disability i gael gwybod rhagor.